P-04-393  Grwp Gweithredu Ffordd Osgoi Llanymynech a Phant

Geiriad y ddeiseb:

Rydym wedi cael llond bol ar y s
ŵn, y llygredd, ar ffaith na allwn gerdded gyda’n plant i’r ysgol, cerdded i’r siopau, na mynd a’n cŵn am dro ar hyd y ffordd. Ni fydd gwelliannau fel lledur ffordd yn gweithio yma. Cynlluniwyd y ffordd i ddechrau fel ffordd un lôn ar gyfer ceffylau a cherti. Mae llawer or tai ar y ddwy ochr yn agos iawn at y ffordd, ac mae nifer o lonydd yn ymuno â’r A483, sydd hefyd yn gwneud y ffordd yn anaddas i’w gwella. Teimlwn mai adeiladu ffordd osgoi yw’r unig ateb, a throi’r ffordd o Lynclys (sy’n hynod o beryglus) o gylch pentrefi Pant a Llanymynech a’i chysylltu â’r ffordd osgoi newydd ger Llandysilio. Hon yw’r brif gefnffordd rhwng Manceinion ac Abertawe, ac nid yw’n addas i’w diben. Mae llawer o Aelodau Seneddol ac Aelodau’r Cynulliad o blaid ein hymgyrch ac rydym yn benderfynol o gyflawni ein hamcan, a gweld dadl lawn yn cael ei chynnal ar y mater hwn yn y Cynulliad.

Rydym wedi cael llond bol ar y sŵn, y llygredd, ar ffaith na allwn gerdded gydan plant ir ysgol, cerdded ir siopau, na mynd an cŵn am dro ar hyd y ffordd. Ni fydd gwelliannau fel lledu’r ffordd yn gweithio yma. Cynlluniwyd y ffordd i ddechrau fel ffordd un lôn ar gyfer ceffylau a cherti. Mae llawer o’r tai ar y ddwy ochr yn agos iawn at y ffordd, ac mae nifer o lonydd yn ymuno â’r A483, sydd hefyd yn gwneud y ffordd yn anaddas i’w gwella. Teimlwn mai adeiladu ffordd osgoi yw’r unig ateb, a throi’r ffordd o Lynclys (sy’n hynod o beryglus) o gylch pentrefi Pant a Llanymynech a’i chysylltu â’r ffordd osgoi newydd ger Llandysilio. Hon yw’r brif gefnffordd rhwng Manceinion ac Abertawe, ac nid yw’n addas i’w diben. Mae llawer o Aelodau Seneddol ac Aelodau’r Cynulliad o blaid ein hymgyrch ac rydym yn benderfynol o gyflawni ein hamcan, a gweld dadl lawn yn cael ei chynnal ar y mater hwn yn y Cynulliad.

 Cyflwynwyd y ddeiseb gan:  Duncan Borthwick

Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor:  29 Mai 2012

 Nifer y llofnodion: 84